Rhifau ffôn cyswllt:

Luxury Toilets

Wedi’i leoli yng ngorllewin Cymru, mae Tipi Cymru yn darparu gwasanaeth cyfleus o’r safon uchaf, gan sicrhau bod eich gwesteion yn mwynhau cyfleusterau heb eu hail. Bydd y cyfan hefyd yn hwylus iawn i chi fel y llogwr. Mae Tipi Cymru yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur, ac yn saff o ddarparu unedau safonol i sicrhau digwyddiad llwyddiannus.

Pam Dewis TiPi?

Dyluniad Soffistigedig

Mae ein toiledau symudol yn edrych yn broffesiynol a smart, gyda dyluniad mewnol modern, ffres, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â steil unrhyw ddigwyddiad, o briodasau i ddigwyddiadau corfforaethol.

Unedau annibynnol

Mae pob uned symudol yn annibynnol, heb angen system draenio allanol. Dim ond cyflenwad trydan 13amp 240volt sydd ei angen, gan wneud gosod yr uned yn broses ddi-ffws.

Cysur a Moethus

Rydym yn darparu papur toiled o safon, tywelion meddal i’r dwylo, sebonau hyfryd, a hufen dwylo i greu profiad moethus i’ch gwesteion.

Cyflenwi a Gosod

Mae ein tîm yn sicrhau bod yr unedau’n cael eu cyflwyno a’u gosod ar adeg sy’n gweddu i amserlen eich digwyddiad, gan sicrhau profiad llyfn a di-ffws.

Gwasanaeth Proffesiynol

Mae pob uned symudol yn annibynnol, heb angen system draenio allanol. Dim ond cyflenwad trydan 13amp 240volt sydd ei angen, gan wneud gosod yr uned yn broses ddi-ffws.

Cefnogaeth 24-awr

Rydym yn cynnig llinell gymorth 24-awr, gan sicrhau bod gennych fynediad i gymorth cyflym ar gyfer unrhyw argyfyngau neu geisiadau ychwanegol.

Ein Hymrwymiad

Yn Tipi Cymru, rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth effeithiol a dibynnol, gan ychwanegu cyffyrddiad o foethusrwydd i’ch digwyddiad. Mae ein cyfleusterau symudol yn cael eu cynnal a’u cadw’n ofalus, gan sicrhau eu bod yn lân ac yn barod i fodloni’r safonau uchaf, gan gynnig profiad eithriadol i’ch gwesteion bob tro.

Galeri