Rhifau ffôn cyswllt:

Tipi Cymru

Mae TiPi yn fusnes sy’n cael ei redeg gan dîm o Gymry Cymraeg, ac yn arbenigo mewn llogi cyfleusterau toiledau cludadwy o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau o bob maint.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu cyfleusterau glân, modern yn ogystal â gofal cwsmeriaid rhagorol. Mae ein tîm cyfeillgar yn cynnig gwasanaeth personol, yn talu sylw i bob manylyn, ac yn ymrwymo i sicrhau bod eich gwesteion yn derbyn cyfleusterau o’r radd flaenaf pob tro. Boed eich digwyddiad yn barti gardd agos-atoch, gŵyl fywiog neu ddigwyddiad corfforaethol ffurfiol, rydym yn gweithio law yn llaw â chi i ddarparu gwasanaeth a phrofiad o’r safon uchaf.

Beth rydyn ni’n ei wneud?

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth dibynadwy a phroffesiynol sy’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau o bob maint. O ddigwyddiadau a phartïon bach, digwyddiadau cymunedol a chorfforaethol a gŵyliau masnachol.

Pam dewis TiPi?

Wrth ddewis TiPi, rydych chi’n dewis cwmni sy’n buddsoddi amser a brwdfrydedd yn eich digwyddiad. Mae ein cwsmeriaid yn ein dewis oherwydd:

  • Rydyn ni’n fusnes o ganolbarth Cymru gyda pharch a deallusrwydd o ddigwyddiadau cymunedol a masnachol.
  • Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth personol a chyfeillgar o’r dechrau i’r diwedd.
  • Rydyn ni’n rhoi sylw manwl i fanylion, gan sicrhau bod popeth yn ôl eich dymuniad.
  • Rydyn ni’n ddibynadwy, proffesiynol , â phrofiad mewn pob math o ddigwyddiadau.
  • Rydyn ni’n hyblyg ac yn gweithio i’ch gofynion, waeth beth fo maint neu leoliad eich achlysur.

Mae eich digwyddiad yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Ardaloedd tydym yn eu gwasanaethu

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Powys

Os yw eich digwyddiad y tu allan i ganolbarth Cymru, cysylltwch â ni. Byddwn yn barod iawn i drafod ac yn gwneud ein gorau i gefnogi chi a’ch digwyddiad.

Rhowch alwad i drafod